Julie James AC
 Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
 Llywodraeth Cymru 
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA

 

21 Hydref 2015

Annwyl Julie

 

Adroddiad ar Gyfleoedd Cyflogaeth i Bobl dros 50 oed

 

Rwy’n ysgrifennu i ddiolch ichi am ddod i’r Pwyllgor Menter a Busnes i drafod ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad ‘Cyfleoedd Cyflogaeth i Bobl dros 50 oed’. Roedd yn sesiwn ddefnyddiol a chynhyrchiol.

Roedd yn arbennig o ddefnyddiol clywed eich bod yn bwriadu cymryd camau i  roi’r saith o argymhellion a dderbyniwyd mewn egwyddor ar waith, er nad yn y modd roedd y Pwyllgor wedi’i ragweld. Rydym yn edrych ymlaen at glywed am y cynnydd a wneir a sut y bydd hyn yn ychwanegu gwerth at bolisïau a mentrau presennol Llywodraeth Cymru.

Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed eich bod yn bwrw ymlaen â rhai o’n hargymhellion yn dilyn eich cyfarfod â Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn ystod yr haf, a’ch bod yn bwriadu ei chyfarfod eto’n fuan.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r ffaith eich bod wedi’n sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pa waith ymchwil newydd sydd ei angen inni fedru deall y sefyllfa’n llawn ac i ddarparu dadansoddiad manwl gywir o weithgarwch ac anweithgarwch economaidd ymhlith pobl dros 50 oed yng Nghymru, a hynny yng nghyd-destun rhaglen ymchwil bresennol y Llywodraeth. Rydym yn credu’n gryf fod angen cael darlun mwy cyfredol a chywir o’r sefyllfa bresennol er mwyn sicrhau bod mentrau polisi’n cael eu seilio ar dystiolaeth.

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn dal i bryderu am y bylchau sylweddol yn y data sy’n ymwneud yn benodol â phobl dros 50 oed. Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd yr awenau a pheidio â dibynnu ar swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn a chyrff yn y trydydd sector i lenwi’r blychau hyn. 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn siomedig na fyddwch yn ystyried datblygu strategaeth sgiliau i bobl dros 50 oed. Mae’r Pwyllgor yn credu bod digon o wahaniaeth rhwng anghenion sgiliau’r garfan hon a gweddill y boblogaeth oedran gweithio i gyfiawnhau datblygu cynlluniau strategol ar wahân, hyd yn oed os gwneir hynny drwy greu is-adran o Ddatganiad Polisi Llywodreth Cymru am Sgiliau.

Nododd y Pwyllgor eich pryder chi a phryderon y sector ynghylch effaith yr Ardoll Prentisiaeth arfaethedig ar Gymru a’r goblygiadau tebygol o ran polisi buddsoddi ar y cyd Llywodraeth Cymru. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru alw am i raglenni sgiliau a chyflogadwyedd yr adran Gwaith a Phensiynau barhau i gael eu datganoli i Gymru ond mae’n nodi’ch pryderon am elfen orfodol y Rhaglen. Byddwn yn cadw llygad ar y cynnydd a wneir yn y maes hwn. 

Hoffai’r Pwyllgor fanteisio ar eich cynnig i ddod yn ôl y flwyddyn nesaf i sôn wrth y Pwyllgor am hynt eich gwaith yn y cyswllt hwn.

 

Cofion cynnes,

 

WG Signature

William Graham

Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes